Mae babanod a phlant ffoaduriaid yn rhewi i farwolaeth yn Syria, yn ôl Pennaeth Dyngarol y Cenhedloedd Unedig.

Dywedodd Mark Lowcock wrth Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig fod “trychineb dyngarol yn datblygu” yn nhalaith gogledd orllewin Idlib yn Syria.

Gan mai dyma gadarnle mawr olaf y gwrthryfelwyr, mae hi wedi bod yn anodd iawn i roi cymorth i’r ffoaduriaid. O ganlyniad i hyn mae nifer o’u hymdrechion i gynnig cymorth wedi eu “llethu” meddai.

Mae bron i 900,000 o bobl wedi ffoi o’u cartrefi ers mis Rhagfyr, ac mae mwy na 500,000 o rheini yn blant.

“Yn Idlib, does unman yn ddiogel”

“Mae llawer ar droed neu ar gefn tryciau mewn tymereddau islaw rhew, yn y glaw a’r eira,” meddai Mr Lowcock.

“Maen nhw’n symud i ardaloedd sy’n orlawn, ardaloedd maen nhw’n meddwl sydd yn fwy diogel. Ond, yn Idlib, does unman yn ddiogel.”

Adleisiodd cenhadwr arbennig y Cenhedloedd Unedig, Geir Pedersen, hyn hefyd gan rybuddio y gall symud torfol pellach arwain at “fwy o ddioddefaint trychinebus”.

“Mae perygl yn gyflym agosáu at ardaloedd poblog iawn fel dinas Idlib a chroesfan ffin Bab al-Hawa, ble mae’r nifer uchaf o bobl sydd ar ffo.”

Dywedodd fod rhaid i Rwsia a Thwrci chwarae rhan allweddol wrth ddod o hyd i ffordd i leddfu’r sefyllfa.

“Mae datganiadau cyhoeddus rhyngwladol yn awgrymu bydd y sefyllfa yn gwaethygu ymhellach,” ychwanegodd.