Mae gwraig o Aberteifi a brofodd erchyllterau’r blitz yn ei phentyndod wrthi’n ddi-baid y dyddiau hyn gwau a chasglu hynny ag y gall o ddillad i ffoaduriaid.

Heddiw, fe fydd y cyfanswm yng nghronfa wau Eileen Johnson ers mis Medi yn cyrraedd mwy ma mil pan fydd hi’n cwrdd â Grŵp Gwau Llangoedmor, a fydd yn cyfrannu 90 dilledyn.

Y nod yw gwau 2,020 eitemau erbyn mis Medi – a fydd hefyd yn nodi pen-blwydd y Fam-gu yn 80 oed.

Yn ôl Eileen Johnson: “Mae gan unrhyw un sydd erioed wedi gwau gwpwrdd neu focs yn llawn gwlân yn rhywle nad ydyn nhw’n ei ddefnyddio. Mae’n wych gallu rhoi defnydd i’r gwlân yma er mwyn helpu ffoaduriaid.”

Dysgodd Eileen Johnson, sy’n wreiddiol o Ogledd Caint, sut i wau pan oedd hi’n dair oed, ac mae wedi bod yn gwau ers hynny.

Mae 500 o siwmperi eisoes wedi eu danfon i Wlad Groeg, ac mae Eileen Johnson yn ddiolchgar am barodrwydd pobol o bob oed i ddysgu a chyfrannu i’r achos.

Cyfraniadau o bob cwr o’r byd

Y llynedd rhannodd ei ŵyr, Dafydd Wyn, sy’n gyflwynydd ar raglenni Heno a Prynhawn Da ar S4C, stori ei Fam-gu ar ei gyfri Twitter, gan ofyn i bobl gyfrannu gwlân neu eitemau wedi eu gwau at yr achos.

Dywedodd Dafydd Wyn wrth Golwg360: “Mae’r cyfraniadau gan bobl leol, ac o bob cwr o’r byd wedi bod yn llifo i mewn.”

“Pan yn fabi cafodd Gran, a fagwyd adeg y rhyfel, ei thaflu o’i chot wedi i fom lanio yn ardd flaen cartref y teulu.

“Er mwyn nodi ei phenblwydd yn 80 eleni, roedd hi’n awyddus i wneud rhywbeth i helpu’r rheini sy’n mynd drwy sefyllfaoedd erchyll ar hyn o bryd.

“Rydym ni fel teulu yn hynod falch o Gran, a gweld yr achos mae wedi gweithio mor galed tuag ato yn cyrraedd 1,000 o eitemau.”