Bydd Bad Achub Ferryside yn Sir Gaerfyrddin a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru ymhlith 50 o elusennau ledled Prydain i elwa ar gyfran o £1 miliwn o gronfa achub y Llywodraeth.

Mae Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru yn derbyn £31,000, a thîm Bad Achub Ferryside hefyd yn derbyn £40,000.

Defnyddiwyd offer a ariannwyd yn rhannol gan grantiau blaenorol yn ymdrechion yr elusennau yn dilyn storm Ciara a Dennis yn ddiweddar, a’r bwriad yw buddsoddi’r arian mewn offer newydd ar gyfer llifogydd.

Wrth groesawu’r newyddion, meddai Gerald Davison o Gymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru: “Mae’r offer cywir yn caniatáu i’n tîm ymateb yn gyflym ac yn effeithiol pan fydd llifogydd a digwyddiadau eraill sy’n gysylltiedig â dŵr yn codi.”

Fe fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart yn ymweld â thîm Bad Achub Ferryside heddiw i’w llongyfarch ar eu gwaith.

“Mae’r sefydliadau hyn yn gwbl hanfodol wrth amddiffyn ein cymunedau, ac felly rwy’n falch iawn o weld gwasanaethau Cymru yn elwa o’r cyllid diweddaraf gan y Llywodraeth,” meddai.

“Bydd yr arian yma yn helpu i sicrhau bod gan griw Bad Achub Ferryside a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru’r offer sydd eu hangen arnynt i barhau i gyflawni eu gwaith hanfodol.”