Mae cyn[arlywydd De Korea, Lee Myung-bak wedi ei roi yn ôl yn y ddalfa bron i flwyddyn wedi iddo gael ei ryddhau ar fechnïaeth ar gyhuddiadau o lygredd a lladrad.

Y tro hwn, mae’r llys apêl wedi ei ddyfarnu i 17 mlynedd o garchar am lwgrwobrwyo, dwyn a chyhuddiadau eraill.

Mae Uchel Lys Seoul hefyd wedi gorchymyn y cyn-arlywydd 78 mlwydd oed i dalu 13 miliwn won (£8.4 miliwn) o ddirwy ac ildio 5.78 biliwn won arall (£3.7 miliwn) am y troseddau eraill honedig pan oedd yn arlywydd o 2008 i 2013, neu pan oedd yn ymgeisydd cyn ennill yr etholiad yn 2007.

Dywedodd ei gyfreithwyr wrth ohebwyr ei fod am apelio’r Goruchel Lys.