Angela Merkel
Mae’n ymddangos fod arweinwyr Ewrop wedi methu â chytuno ar fargen i achub arian yr Ewro.

Fe fydd penaethiaid gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn cwrdd heddiw ond does dim arwyddion eto eu bod wedi setlo ar becyn brys.

Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi canslo ymweliadau â Japan a Seland Newydd er mwyn mynd i’r cyfarfod.

Roedd arweinwyr yr Almaen a Ffrainc – Anglea Merkel a Nicolas Sarkozy – wedi addo cytundeb terfynol erbyn diwedd y dydd heddiw.

Drwg i wledydd Prydain

Mae David Cameron wedi mynnu cael llais, er nad yw gwledydd Prydain yn rhan o arian yr Ewro. Ond fe fyddai chwalfa yn Ewrop yn gwneud drwg mawr i’r fasnach rhwng busnesau Prydeinig a’r cyfandir.

Fe gafodd cyfarfod o weinidogion cyllid ei ohirio – arwydd, meddai sylwebyddion, fod llawer o’r manylion heb eu cytuno.

Mae rhai’n dweud y gallai’r Ewro ei hun fod mewn peryg ac mae’r Eidal dan bwysau arbennig wrth i’r Prif Weinidog, Silvio Berlusconi, geisio cael cefnogaeth i gynlluniau i dorri ei dyled.

Yr egwyddorion

Mae’r arweinwyr wedi cytuno ar dri egwyddor i achub yr Ewro:

  • Codi arian i gryfhau rhai o’r banciau sy’n gwegian – dyma’r un pwynt sydd wedi ei gytuno’n llawn.
  • Cynyddu’r gronfa wrth gefn ar gyfer achub economïau rhai o’r aelodau, gan gynnwys gwledydd o faint yr Eidal.
  • Perswadio benthycwyr preifat i anghofio hanner dyledion Gwlad Groeg.

Does dim cytundeb eto ar sut yn union i weithredu’r ddau bwynt ola’.