Achub y babi (AP Photo)
Fe gafodd babi pythefnos oed ei thynnu’n fyw o’r rwbel yn naeargryn dwyrain Twrci.

Roedd achubwyr yn cymeradwyo wrth i’r ferch fach gael ei thynnu o weddillion adeilad lle’r oedd hi wedi ei dal gyda’i rhieni.

Fe gafodd mam Azra Karaduman ei hachub hefyd ond dyw hi ddim yn glir eto a yw’r tad wedi byw.

Roedd bachgen arall, 9 oed, wedi ei achub fwy na deuddydd ar ôl y daeargryn ond fe arhosodd Oguz Isler yn y fan a’r lle i aros am wybodaeth am ei deulu.

Chwilio am bobol

Mae achubwyr yn dal i weithio i geisio rhyddhau dwsinau o bobol sydd wedi eu dal yn gaeth yn ninas Ercis – mae mwy na 2,000 o adeiladau wedi eu chwalu.

Mae o leia’ 370 o bobol wedi eu lladd yn y daeargryn a oedd yn mesur 7.2 ar raddfa Richter. Fe drawodd galeta’ yn rhanbarth Van yn nwyrain Twrci yn agos at y ffin ag Iran.