Mae pobol yn y Swistir yn pleidleisio ar ddeddfwriaeth newydd a fydd yn ei wneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobol ar sail eu rhywioldeb.
Fe fyddai’n cael ei hychwanegu at ddeddfwriaeth i atal hiliaeth.
Fe fyddai’r ddeddfwriaeth hefyd yn ei wneud yn anghyfreithlon i greu casineb ar sail rhywioldeb rhywun.
Ond mae gwrthwynebwyr yn mynnu cael rhwydd hynt i leisio’u barn yn gyhoeddus, ac maen nhw wedi gorfodi refferendwm drwy ddenu digon o gefnogaeth i’w safbwynt.
Mae’r Swistir yn cynnal sawl refferendwm ar amrywiaeth o faterion bob blwyddyn fel rhan o’r broses ddeddfu.
Mae polau piniwn yn awgrymu y bydd y mwyafrif o blaid y ddeddfwriaeth newydd, ac mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi’n ddiweddarach.