Mae 722 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r coronavirus yn Tsieina erbyn hyn.

Yn eu plith mae meddyg a gafodd ei fygwth gan yr heddlu pan geisiodd e rybuddio’r awdurdodau am y firws dros fis yn ôl, ac fe gafodd ei orfodi i lofnodi dogfen yn dweud ei fod e wedi dweud anwiredd.

Mae’r llywodraeth yn wynebu cryn feirniadaeth ynghylch y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â’r sefyllfa.

Mae 3,399 o bobol wedi cael diagnosis dros y 24 awr diwethaf, sy’n codi nifer yr achosion i 34,546 yn y wlad.

Bu farw Americanwr 60 oed yn Wuhan ddydd Mercher, y person cyntaf o’r Unol Daleithiau i farw o ganlyniad i’r firws.

Bu farw un person o Japan o ganlyniad i niwmonia yn Wuhan, ac mae’n golygu bod 64 o bobol o’r wlad honno wedi’u heintio.

Mae Xi Jinping, arlywydd Tsieina, yn galw ar Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, i bwyllo cyn gwahardd teithio yn dilyn pryderon fod rhai gwledydd yn gorymateb.