Mae dyn 33 oed wedi cael gorchymyn cymunedol am dynnu lluniau anweddus o dan sgertiau merched yn eu harddegau mewn archfarchnad yng Nghaerllion.

Tynnodd Lewis Taylor 14 o luniau a fideos dros gyfnod o ddau fis yn archfarchnad Sainsbury’s y dref.

Cafodd ei weld droeon ger silffoedd brechdanau rhwng mis Hydref a Rhagfyr y llynedd, wrth iddo gwmanu yn ymyl merched 11 i 16 oed a sicrhau bod ei ffôn yn gallu tynnu delweddau rhwng eu coesau.

Doedd y merched ddim yn ymwybodol o’r lluniau a’r fideos ar y pryd, heblaw am ferch 14 oed oedd wedi mynd at yr heddlu, ac fe wnaeth rheolwr yr archfarchnad gwyno ar Ragfyr 16 hefyd.

Pan gafodd yr heddlu eu galw i’r archfarchnad, fe adawodd y troseddwr cyn iddyn nhw gyrraedd ond roedd rhif cofrestru ei gar wedi cael ei gofnodi, ac fe gafodd ei arestio yn ei gartref yn ddiweddarach.

Cafodd yr heddlu hyd i ddau fideo a 18 llun ar ei ffôn a’i gyfrifiadur, a phedwar ohonyn nhw wedi’u tynnu o dan sgertiau merched.

Yr achos

Plediodd e’n euog yn Llys y Goron Caerdydd i 20 o droseddau, gan gynnwys 18 yn ymwneud â delweddau’n cael eu tynnu o dan sgertiau a dwy yn ymwneud â fideos.

Dywedodd cyfreithwyr ar ei ran ei fod e’n mynd trwy gyfnod anodd yn ei fywyd ar y pryd, a bod y troseddau’n groes i’w gymeriad.

Clywodd y llys ei fod e wedi colli ei waith, ei berthynas a’i gartref.

Fel rhan o’r gorchymyn, bydd yn rhaid iddo fynd at yr heddlu’n gyson a dilyn cwrs adferiad er mwyn osgoi mynd i’r carchar.

Fe fydd yn destun gorchymyn am dair blynedd, ac fe fydd yn rhaid iddo wneud 150 awr o waith di-dâl.

Bydd yn rhaid iddo fe gofrestru fel troseddwr rhyw am bum mlynedd.