Mae dau wleidydd o Sweden wedi enwebu’r ymgyrchydd amgylcheddol Greta Thunberg am Wobr Heddwch Nobel 2020.

Dywed Jens Holm a Hakan Svenneling, o Blaid adain chwith Sweden fod y ferch 17 oed “wedi gweithio’n galed i orfodi gwleidyddion i agor eu llygaid i’r argyfwng amgylcheddol” ac “mae gweithredu dros leihau ein hallyriad a chydweithredu â Chytundeb Paris yn weithred heddwch.”

Mae Cytundeb Paris 2015 yn gofyn ar wledydd y byd i weithredu er mwyn mynd i’r afael a chynhesu byd-eang sy’n toddi rhewlifoedd, codi lefelau’r môr ac achosi newid mewn patrymau glaw.

Roedd yr ymgyrchydd o Sweden wedi annog disgyblion i beidio mynd i’r ysgol er mwyn ymuno â phrotestiadau i fynnu gweithredu ar newid hinsawdd, symudiad sydd wedi lledaenu tu hwnt i Sweden i wledydd eraill Ewropeaidd ac o amgylch y byd.

Greta Thunberg oedd yn gyfrifol am ddechrau’r mudiad Fridays for Future sydd wedi ysbrydoli pobl ifanc eraill i weithredu dros newid.

Gall unrhyw wleidydd gwladol enwebu rhywun am Wobr Heddwch Nobel, a chafodd Greta Thunberg ei henwebu gan dri aelod o senedd Norwy y llynedd.

Yn 2019, roedd hi ymysg pedwar o bobl gafodd eu henwi fel enillwyr Right Livelihood Award, a chafodd ei henwi fel Person y Flwyddyn gan gylchgrawn Time.

Dyw’r Pwyllgor Nobel ddim yn gwneud sylwadau cyhoeddus ar enwebiadau, ac roedd yn rhaid  i’r enwebiadau gael eu cyflwyno erbyn Chwefror 1.