Mae 20 o bobol wedi cael eu sathru i farwolaeth yn ystod cwrdd eglwysig yn Tanzania.

Fe ddigwyddodd yn ninas Moshi wrth i bobol gael eu tywys i un allanfa fel y gallen nhw gerdded ar olew eneiniog.

Roedd cannoedd o bobol yn y cwrdd oedd yn cael ei arwain gan Boniface Mwamposa, pregethwr poblogaidd sy’n bennaeth ar un o weinidogaethau’r wlad.