Mae mab cyn-arlywydd ynys Melita wedi cael ei ethol yn brif weinidog y wlad.

Derbyniodd Robert Abela bron i 58% o bleidleisiau ei blaid yn y ras arweinyddol i olynu Joseph Muscat, sy’n camu o’r neilltu yn dilyn ffrae tros ran aelod o’i staff yn llofruddiaeth y newyddiadurwraig Daphne Caruana Galizia yn 2017.

Mae tri o bobol eraill wedi’u harestio a’u holi ar amheuaeth o ffrwydro bom car.

Dydy hi ddim yn glir eto pryd fydd y prif weinidog newydd, mab George Abela, yn tyngu llw.

Mae disgwyl i Robert Abela fynd i’r afael ag adfer enw da’r ynys am gadw at y gyfraith, yn dilyn beirniadaeth o’r farnwriaeth a’r heddlu.

Fe wnaeth Joseph Muscat drechu George Abela yn y ras arweinyddol yn 2008, a chael ei benodi’n arlywydd yn 2009.