Mae 27 o bobol bellach wedi marw ers i’r tanau mawr ddechrau yn Awstralia fis Medi’r llynedd.

Billy Slade, diffoddwr profiadol 60 oed, yw’r diweddaraf i gael ei ladd.

Cafodd ei ladd ar ôl cael ei daro gan goeden yn nhalaith Victoria ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 11).

Fe fu’n ddiffoddwr tân ers 40 o flynyddoedd.

Mae mwy na 2,000 o gartrefi wedi cael eu dinistrio gan y tanau erbyn hyn.

Mae llywodraeth Awstralia bellach dan bwysau i ymateb i newid hinsawdd yn y wlad.

Fe fu miloedd o bobol yn Sydney a Melbourne yn galw ar Scott Morrison, prif weinidog y wlad, i gamu o’r neilltu yn sgil ei ddiffyg ymateb i’r sefyllfa.

Mae protestwyr ar draws y byd wedi bod yn dangos eu cefnogaeth.