Mae gweinyddiaeth Donald Trump wedi cael ei hannog i gyhoeddi rhagor o fanylion am yr hyn a’i hysgogodd i lofruddio’r Cadfridog Qasem Soleimani.

Cafodd y cadfridog Iranaidd ei ladd gan ymosodiad awyr yr wythnos diwethaf, ac yn sgil hynny mae tensiynau wedi bod yn uchel rhwng Tehran a’r Unol Daleithiau. 

Mae swyddogion yr Arlywydd, Donald Trump, yn mynnu bod cudd-wybodaeth yn dangos bod y ffigwr o Iran wedi “cynllwynio i ymosod ar ddiplomyddion yr Unol Daleithiau”.

Ond bellach mae’r Democratiaid yn galw am gyhoeddi manylion am y bygythiad yma. 

“Yn ei hanfod, rydych yn galw arnom i ymddiried ynoch,” meddai’r Democrat, Eliot Engel. “Ond dydy hynny ddim yn ddigon da i mi.”

Mae’r Gweriniaethwr, Jim Risch, wedi amddiffyn gweinyddiaeth yr Arlywydd am fod mor gyfrinachgar ac wedi dweud “yn syml, dyna yw natur cudd-wybodaeth.”