Mae Pedro Sanchez wedi ennill pleidlais o hyder o drwch blewyn fel y gall fwrw ati i ffurfio llywodraeth Sbaen.
Enillodd e’r bleidlais o 167 i 165, gydag 18 yn atal eu pleidlais, wrth iddo grafu’r fuddugoliaeth leiaf ers degawdau.
Bydd ei blaid nawr yn arwain clymblaid asgell chwith ond mae amheuon eisoes am ba hyd y gall y llywodraeth fod yn ei lle.
Dyma’r tro cyntaf i Sbaen gael llywodraeth glymblaid ers 1978, dair blynedd ar ôl i Franco farw.
Bu Pedro Sanchez wrth y llyw dros dro ers yn gynnar y llynedd, ac mae disgwyl iddo dyngu llw yn ffurfiol yfory (dydd Mercher, Ionawr 8) cyn cynnal cyfarfod o’i weinidogion ddydd Gwener (Ionawr 10).
Annibyniaeth
Fe wnaeth y pleidiau o blaid annibyniaeth i Wlad y Basg a Chatalwnia atal eu pleidlais fel rhan o gytundeb i dderbyn arweinyddiaeth Pedro Sanchez.
Mae ymgyrch annibyniaeth Catalwnia yn achosi’r hyn mae rhai yn ei alw’n argyfwng gwleidyddol gwaethaf Sbaen ers degawdau.
Mae nifer o bleidiau’n galw am drafod y sefyllfa er mwyn ei datrys yn foddhaol.