Y rhagenw unigol ‘nhw’ yw hoff air y degawd Cymdeithas Tafodieithoedd yr Unol Daleithiau.
Cafodd y gair ei ddewis yn dilyn pôl ymhlith aelodau’r gymdeithas yn New Orleans.
Dywed y gymdeithas fod arbenigwyr ieithyddol yn talu sylw i eiriau sy’n arwydd o newidiadau cymdeithasol.
Mae’r rhagenw unigol ‘nhw’ yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at rywun nad yw’n perthyn i rywedd penodol.
Yn ôl y gymdeithas, gall gair y flwyddyn fod yn unrhyw air neu ymadrodd sydd wedi bod yn amlwg yn ystod y flwyddyn flaenorol.
‘Nhw’ hefyd oedd gair y flwyddyn yn 2015.
Mae’n trechu ‘ok boomer’, ‘meme’, ‘karen’, ‘climate’, ‘cancel’, ‘#BlackLivesMatter’ a ‘woke’.
Cafodd y geiriau eu dewis gan ieithegwyr, etymolegwyr, haneswyr, awduron a myfyrwyr.
Cafodd y pôl ei gynnal am y tro cyntaf yn 1991.
“Quid pro quo” yw ymadrodd gwleidyddol y flwyddyn ar ôl i Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, ei ddefnyddio yn ystod yr helynt uchelgyhuddo.