Mae dyn wedi cael ei ladd gan siarc yn nhalaith Gorllewin Awstralia.

Roedd e’n neidio oddi ar gwch toc ar ôl 1 o’r gloch y prynhawn (dydd Sul, Ionawr 5).

Does dim golwg o’i gorff.

Cafodd dynes driniaeth am sioc yn dilyn y digwyddiad.