Mae Llywodraeth Geidwadol Prydain a’r Blaid Lafur wedi ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn Iran ar hyn o bryd, gyda rhai yn ofni’r canlyniadau pe bai’r helynt yn arwain at ryfel.

Mae nifer o’r ymgeiswyr sydd yn y ras i arwain y Blaid Lafur wedi mynegi pryderon, gan gynnwys Lisa Nandy ac Emily Thornberry, tra bod Dominic Raab, yr Ysgrifennydd Tramor, wedi ymateb i’r feirniadaeth o’r prif weinidog Boris Johnson, sydd ar ei wyliau ar hyn o bryd.

Dywed Lisa Nandy ei bod hin “gofidio’n fawr” am sefyllfa “a allai droi’n rhyfel”.

“Dw i’n meddwl bod y byd yn wynebu eiliad peryglus iawn, a Phrydain yn enwedig,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Yr hyn y dylen ni ei weld yw prif weinidog a ddylai, â bod yn onest, eisoes fod wedi ad-alw’r Senedd i egluro’i strategaeth, sut fydd e’n gweithio â’n cynghreiriaid Ewropeaidd i geisio lleihau’r sefyllfa.”

Mae’n cyhuddo’r Arlywydd Donald Trump o fod yn “ddi-hid”.

Mae Emily Thornberry, yn y cyfamser, yn galw ar Boris Johnson i “gymryd cyfrifoldeb”, ac yntau ar ei wyliau yn y Caribî.

Mae hi wedi ei gyhuddo o anwybyddu ei phryderon am ymateb Donald Trump i helynt Iran, a Llywodraeth Prydain o “wneud rhy ychydig yn rhy hwyr”, a hithau wedi mynegi pryderon pan oedd Boris Johnson yn Weinidog Tramor.

Ymateb Dominic Raab

Mae Dominic Raab, yn y cyfamser, yn dweud y bydd yn cyfarfod â Mike Pompeo, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, yn Washington yr wythnos nesaf.

Mae’n dweud bod Llywodraeth Prydain am geisio lleihau’r perygl yn sgil y berthynas rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran.

Ond mae’n gwrthod dweud a oes yna berygl i filwyr Prydain yn y Dwyrain Canol yn sgil “rhagor o densiynau”, er ei fod yn dweud bod Llywodraeth Prydain yn “gwneud popeth” i sicrhau diogelwch pobol.

Mae’n dweud ei fod e wedi bod yn cydweithio’n “agos” â Boris Johnson er ei fod e ar ei wyliau.

“Yr hyn sy’n bwysig yma yw fod gan y Llywodraeth strategaeth glir iawn a’r neges yw ein bod ni am weld lleihad, a byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i warchod teithiau diplomyddol y Deyrnas Unedig ac rydyn ni wrthi’n gwneud hynny.”