Mae Plaid Werdd Awstria wedi taro dêl clymbleidio gyda phrif blaid geidwadol  y wlad.

Plaid y Bobol oedd y blaid a enillodd y nifer uchaf o seddi yn etholiad Awstria ym mis Medi, ac mi ddechreuon nhw gynnal trafodaethau â’r Gwyrddion ym mis Tachwedd. 

Rhyngddyn nhw, mae gan y ddwy blaid 97 sedd yn senedd 183 sedd y wlad.

Dyw’r Blaid Werdd ddim wedi bod mewn grym o’r blaen, a daw’r glymblaid wedi iddyn nhw brofi etholiad da’r llynedd. 

O gymryd bod cynrychiolwyr y Gwyrddion yn hapus i gymeradwyo’r ddêl, mi allai’r llywodraeth newydd ddod i rym mor fuan ag wythnos nesaf. 

Ymateb yr arweinwyr

Mae arweinydd Plaid y Bobol, Sebastian Kurz, wedi croesawu “canlyniad da iawn” y trafodaethau rhwng y pleidiau.

Doedd y penderfyniad i glymbleidio “ddim yn hawdd”, yn ôl arweinydd y Gwyrddion, Werner Kogler.