Mae o leiaf 16 o garcharorion wedi cael eu lladd a nifer yn rhagor wedi’u hanafu yn dilyn terfysg mewn carchar ym Mecsico.

Bu’n rhaid i’r awdurdodau gipio pedwar dryll oddi ar garcharorion yng ngharchar Cienguillas yn nhalaith Zacatecas, yn dilyn ymweliadau ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 31).

Fe ddigwyddodd am oddeutu 2.30 y prynhawn, ac fe lwyddodd swyddogion i ddatrys y sefyllfa rai oriau’n ddiweddarach.

Bu farw 15 o bobol yn y carchar ac un arall yn yr ysbyty.

Cafodd un carcharor ei arestio am fod â dryll yn ei feddiant a chafwyd hyd i dri dryll arall yn y carchar, yn ôl datganiad.

Cafodd nifer o’r meirw eu saethu a’r gweddill eu trywanu.

Chafodd yr un swyddog ei anafu yn y digwyddiad.