Mae’r lluoedd arfog yn ceisio rheoli tanau mawr yn Awstralia sydd wedi lladd 13 o bobol ers mis Medi.
Mae cartrefi wedi’u dinistrio ac mae miloedd o bobol yn ceisio lloches ar draethau cyfagos ar draws y wlad, ac eraill yn cysgu yn eu ceir.
Mae pedwar o bobol wedi marw ers dydd Llun, wrth i daleithiau New South Wales a Victoria ddioddef waethaf ar arfordir de-ddwyrain y wlad.
Mae disgwyl i’r lluoedd arfog gynorthwyo’r gwasanaethau brys am bythefnos, gyda hofrenyddion yn cludo nwyddau angenrheidiol i bobol sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell.
Mae pedwar o bobol yn dal ar goll.
Mae dros 100 o danau yn dal yn lledu.
Dyma’r tymor tanau gwaethaf erioed yn Awstralia, yn ôl ffigurau swyddol yr awdurdodau, ac mae llywodraeth Scott Morrison dan y lach am ddiffyg gweithredu honedig wrth i’r gwrthbleidiau alw am ymchwiliad, gan gynnwys i ansawdd aer yn sgil y mwg.