Mae llys yn Swdan wedi dedfrydu 27 o bobol i farwolaeth trwyy gael eu crogi, am arteithio a lladd protestiwr yn ystod y gwrthryfel yn erbyn yr arweinydd, Omar al-Bashir, yn gynharach eleni.

Mae cannoedd o bobol wedi bod y tu allan i’r llys yn ninas Omdurman, yn dathlu’r ddedfryd.

Roedd marwolaeth y gwrthdystiwr a’r athro ysgol, Ahmed al-Khair, tra yn y carchar, yn drobwynt ac yn symbol yn ystod y gwrthryfel yn y wlad.

Fe arweiniodd y gwrthryfel at gwymp cyfundrefn yr otocrat.