Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am dystion i ddigwyddiad yn ystod sesiwn gan Flamingo Bingo yn Hwlffordd rai dyddiau cyn y Nadolig.

Fef ddigwyddodd yr ymosodiad yn y Pafiliwn yn y dref yn Sir Benfro ar Ragfyr 21.

Y gred ydi fod un wraig wedi ceisio llusgo dwy arall allan o fwth, gan dynnu gwallt y naill a phwnio a chicio’r llall.

Fe lwyddodd chwaraewyr eaill i wahanu’r tair, a chafodd neb ei hanafu’n ddifrifol.

Er, fe gafodd un wraig ei chludo i’r ysbyty ar ol torri ei thrwyn.