Mae cannoedd wedi cael eu harestio yn India, wrth i brotestiadau fynd rhagddynt tros ddeddf ddadleuol.

Mae’r ‘ddeddf dinasyddiaeth’, yn ôl protestwyr, yn gwahaniaethu yn erbyn Mwslemiaid, ac mae dwsinau o brotestiadau wedi cael eu trefnu ledled y wlad.

Ond mae’r Llywodraeth wedi gwahardd torfeydd rhag ymgynnull, ac mae cannoedd bellach yn y ddalfa. 

Mae 200 miliwn o Fwslemiaid yn byw yn India, a phryder rhai yw bod ymdrech ar droed i droi’r wlad yn wladwriaeth Hindŵ.