Mae disgwyl i ddynes 34 oed ddod yn brif weinidog ieuengaf erioed y Ffindir – a’r drydedd ferch erioed i gael ei phenodi i’r swydd.
Sanna Marin yw’r Gweinidog Trafnidiaeth ar hyn o bryd, a chafodd hi ei dewis o 33 o bleidleisiau i 29 i gynrychioli plaid y Democratiaid Sosialaidd, ar ôl trechu Antti Lindtman.
Bydd hi’n olynu Antti Rinne i ddod yn brif weinidog ieuengaf y byd ar hyn o bryd, yn ôl y wasg yn y Ffindir.
Mae Antti Rinne wedi camu o’r neilltu ar ôl methu â sicrhau digon o gefnogaeth yn y ras, ac mae hi wedi cael ei beirniadu yn sgil ei harweinyddiaeth o’r wlad yn dilyn streic genedlaethol gweithwyr y post.
Fe fu Sanna Marin yn ddirprwy gadeirydd ei phlaid, ac yn gyfrifol am gyfathrebu.
Mae disgwyl i’w phenodiad dderbyn sêl bendith mewn da bryd iddi gynrychioli’r Ffindir yn uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel yr wythnos hon.
Bydd gan y llywodraeth newydd fwyafrif o 117 o seddi yn yr Eduskunta, senedd y Ffindir sydd â chyfanswm o 200 o seddi, ac mae disgwyl i Antti Rinne ddod yn ddirprwy lefarydd y senedd.