Mae disgwyl i Boris Johnson ymweld â gogledd Cymru cyn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (Rhagfyr 12), wrth i’r Ceidwadwyr dargedu seddi lle’r oedd pleidleiswyr Llafur o blaid Brexit yn y refferendwm.
Fe fydd e hefyd yn ymweld â gogledd, de-ddwyrain a de-orllewin Lloegr dros y dyddiau nesaf, ar ôl treulio heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 9) yn Humber a Wearside.
Fe fydd e’n dweud wrth bleidleiswyr yn Sunderland mai Llafur sydd yn siomi fwyaf o safbwynt Brexit.
“O dan Jeremy Corbyn, fe wnaethon nhw addo parchu canlyniad y refferendwm – cyn pleidleisio yn erbyn Brexit bob cyfle gawson nhw,” fydd ei neges yn y fan honno.
“Enillon nhw eu seddi ar brosbectws ffals a rhoi dau fys i fyny i’r cyhoedd.
“Nawr maen nhw’n cynnig refferendwm arall – y tro hwn yn trefnu’r canlyniad drwy ymestyn y brydles i ddwy filiwn o drigolion yr Undeb Ewropeaidd.
“Dyma frad o’r mwyaf, wedi’i drefnu o Islington gan wleidyddion sy’n chwerthin ar ben eich egwyddorion ac yn anwybyddu eich pleidleisiau.”
Cefndir yr etholaethau
Yn Sunderland a Washington, mae’r tri aelod seneddol yn cyd-sefyll gan addo ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae cwmni ceir Nissan, sy’n cefnogi 7,000 o bobol yn Sunderland, yn rhybuddio am beryglon Brexit heb fargen.
“Llafur – terfyn ar lymder”
Yn y cyfamser, fe fydd John McDonnell yn amlinellu blaenoriaethau Llafur ar gyfer y can diwrnod cyntaf pe baen nhw’n dod i rym.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi terfyn ar lymder a buddsoddiad mewn cymunedau sydd wedi cael eu hesgeuluso.
Bydd e hefyd yn dweud bod nifer o gwmnïau ynni yn dod i berchnogaeth y cyhoedd o fewn pedwar mis ar ôl ethol llywodraeth Lafur.