Mae pump o bobol wedi marw ar ôl i losgfynydd ffrwydro ar ynys fechan yn Seland Newydd.
Dywed yr heddlu bod 23 o bobol wedi cael eu cludo o Ynys Wen, rhai ohonyn nhw wedi’u hanafu.
Mae nifer y bobol sy’n dal i fod ar goll ar yr ynys mewn ffigyrau dwbl, meddai’r heddlu. Roedd llai na 50 o bobol yno pan ffrwydrodd.
Mae’r ynys yn boblogaidd gyda thwristiaid ac mae’n debyg bod ymwelwyr o dramor wedi bod yn rhan o’r digwyddiad, meddai’r heddlu.
Mae’n rhy beryglus i’r heddlu a’r timau achub deithio i’r ynys ar hyn o bryd oherwydd y lludw o’r llosgfynydd ond maen nhw’n awyddus i ddychwelyd mor fuan a phosib.
Does dim cysylltiad wedi bod gyda’r rhai sy’n dal ar goll ar yr ynys, yn ôl yr heddlu.
Mae Prif Weinidog Seland Newydd Jacinda Ardern wedi estyn cysymdeimlad at y rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddweud bod y digwyddiad yn ymddangos yn “un sylweddol”.