Mae tân gwyllt wedi gorfodi pobol i ffoi o’u tai yn nhalaith Califfornia yn yr Unol Daleithiau.

Dywed y gwasanaeth tâc ac achub fod y fflamau bellach wedi ymledu dros 10,000 acer o dir.

Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Tywydd yr Unol Daleithiau yn dweud fod gwyntoedd hyd at 70 milltir yr awr yn gwneud y sefyllfa’n waeth.