Mae cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter, yn yr ysbyty ar ôl cael anffawd arall yn ei gartref yn Georgia.
Dywed llefarydd ar ran Canolfan Carter fod y gwleidydd, 95, wedi cael niwed i’w belfis, ond mae mewn hwyliau da, meddai wedyn.
Dyma’r trydydd tro i Jimmy Carter, preswylydd y Tŷ Gwyn rhwng 1977 a 1981, gwympo o fewn y misoedd diwethaf.
Yn dilyn un anffawd gas ddechrau’r mis, fe deithiodd i Nashville, Tennesse y diwrnod canlynol er mwyn helpu criw o wirfoddolwyr i adeiladu cartref ar gyfer yr elusen, Habitat for Humanity.
O’r holl gyn-Arlywyddion yn hanes yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter sydd wedi byw hiraf.
Mae llawer yng Nghymru yn dal i gofio ei daith i’r canolbarth ganol yr 1980au, pan ymwelodd â chapel Soar y Mynydd ger Tregaron a physgota yng nghwmni’r diweddar Moc Morgan.
Mae Jimmy Carter hefyd yn hoff o waith y bardd o Dalacharn, Dylan Thomas.