Mae cyn-swyddog Natsiaidd yng ngwersyll difa Stutthof, yn ymddangos gerbron llys wedi ei gyhuddo o fod â rhan mewn 5,230 o lofruddiaethau.
Cafodd Bruno Dey ei wthio mewn i’r llys mewn cadair olwyn, gydag un o’i ferched wrth ei ochr.
Er nad oes tystiolaeth fod Bruno Dat wedi lladd neb yn uniongyrchol yn Stutthof, mae’r erlynwyr yn dadlau fod y ffaith ei fod yn swyddog yn y gwersyll rhwng 1944 a 1945 yn golygu ei fod yn “olwyn fechan yn y peiriant difa.”
“Doedd Bruno Dat ddim yn gefnogwr brwd o eidioleg Natsiaidd,” meddai’r erlynwyr.
“Ond does yna hefyd ddim amheuaeth na wnaeth o herio digon ar y syniad o ddifa oedd yn digwydd o dan y gyfundrefn Natsiaidd.”
Tra bod cyfreithiwr Bruno Dey yn dadlau fod “neb efo diddordeb mewn swyddogion syml” cyn newid diweddar yn rhesymeg gyfreithiol yr Almaen.
Mae’r achos yn parhau.