Mae heddlu Papua Guinea Newydd yn bwriadu arestio cyn-brif weinidog y wlad, er mwyn ei holi ynglyn â honiadau o lygredd gwleidyddol.

Tra bod yr awdurdodau yn honni fod y gwleidydd yn gwrthod cydweithredu gyda’r ymchwiliad, mae cwmni darlledu Australian Broadcasting Corp yn adrodd o Port Moresby fod Peter O’Neill yn edrych ymlaen at gyflwyno ei achos yn y llys.

Does yna ddim manylion am y cyhuddiadau wedi’u cyhoeddi eto.

Mae comisynydd yr heddlu yn dweud fod Peter O’Neill wedi’i ganfod mewn gwesty yn y brifddinas, Port Moresby, onnd yn gwrthod chwarae’r gêm.

Fe fu’n brif weinidog Papua Guinea Newydd am gyfnod o saith mlynedd.