Mae swyddogion Cwrdaidd Syria yn dweud bod hyd at 700 o gefnogwyr Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – wedi dianc o wersyll yng ngogledd-ddwyrain Syria.
Fe ddaw wrth i luoedd Twrci barhau â’u cyrch ar y wlad.
Fe wnaeth y rhai sydd wedi ffoi ymosod ar giatiau gwersyll Ain Eissa cyn ffoi yng nghanol brwydro a chyrchoedd awyr yn yr ardal.
Mae’r gwersyll yn cynnal hyd at 12,000 o bobol, gan gynnwys bron i 1,000 o fenywod o wledydd tramor sydd â chysylltiadau â’r eithafwyr Islamaidd.
Mae hefyd yn un o ganolfannau’r cynghreiriaid Americanaidd.