Mae miloedd o bobol frodorol wedi mynd i brotestio i ddinas Quito, wrth i brotestiadau yn erbyn y llywodraeth orfodi’r arlywydd, Lenin Moreno, i ffoi o’r brifddinas.
Mae’r wlad wedi ei pharlysu gan ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus a lonydd wedi eu rhwystro, sydd eisoes wedi effeithio economi fregus y wlad.
Mae trais wedi parhau ers wythnos diwethaf, pan wnaeth penderfyniad Lenin Moreno i ddod a therfyn i gymhorthdal gan achosi codiad mewn prisiau tanwydd.
Bu i’r llywodraeth ddatgan cyrffiw o gwmpas sefydliadau gwladol ac adeiladau llywodraethol yn ogystal ag isadeileddau megis meysydd awyr a phurfeydd olew.