Mae datganiad gan Sefydliad Iechyd y Byd yn codi amheuon fod Tanzania yn celu achosion o’r firws Ebola.
Dywed y sefydliad nad yw llywodraeth y wlad wedi cyhoeddi data yn ymwneud â’r firws, er gwaethaf sawl cais am wybodaeth.
Mae llywodraeth y wlad yn mynnu nad oes yna’r un achos o’r firws yno.
Ond dywed y Cenhedloedd Unedig eu bod nhw’n ymwybodol o un achos posib ar Fedi 10, pan fu farw unigolyn yn yr ysbyty yn Dar es Salaam.
Yn ddiweddarach, roedd awgrym fod aelod o deulu’r unigolyn hwnnw yn yr ysbyty yn dioddef o’r firws.
Gall hyd at 90% o achosion o’r firws arwain at farwolaeth, ac fe all gael ei drosglwyddo o un person i’r llall drwy gyswllt corfforol.
Y Congo
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae’n anodd asesu’r sefyllfa yn Tanzania heb wybodaeth fanwl.
Yn y Congo, mae dros 3,000 o bobol wedi cael eu heintio, gyda bron i 2,000 ohonyn nhw’n marw.
Fe fu sawl achos yn Uganda hefyd, ac mae nifer o wledydd eraill yn paratoi am achosion posib.