Dywed Greenpeace fod nifer o’i ymgyrchwyr wedi’u dal gan warchodwyr arfog ffiniau Pwylaidd a orfododd eu ffordd ar long y grŵp gan ei fod yn ceisio rhwystro danfon glo i’r porthladd yn Gdansk.
Mae’r grŵp ymgyrchu amgylcheddol yn cynnal “protest argyfwng hinsawdd” i wneud i wlad Pwyl ddileu ei dibyniaeth ar lo yn raddol.
Roedd yr actifyddion ar fwrdd y llong ‘Rainbow Warrior’ yn ceisio rhwystro llwyth o lo o Mozambique ac wedi paentio ‘Poland Beyond Coal 2030 a No Future In Coal’ ar ochr y llong.
Dywed awdurdodau ffiniau gwlad Pwyl y daethpwyd â 18 o weithredwyr i’w holi ar ôl i warchodwyr orfodi eu ffordd ar y Rainbow Warrior neithiwr.