Dywed heddlu yn yr Iseldiroedd fod dynes 27 oed wedi marw o ganlyniad i anafiadau  mewn achos o saethu a hawliodd fywydau dau o blant a heddwas hefyd.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae’r heddlu’n dweud fod y ddynes wedi marw yn dilyn “drama deuluol” yn ninas Dordrecht.

Neithiwr (nos Lun, Medi 9), fe gafodd dau blentyn, 8 a 12 oed, eu lladd ynghyd â heddwas 35 oed.

Nid yw’r heddlu wedi dweud a yw’r dioddefwyr yn perthyn i’w gilydd ai peidio, ond y gred yw fd y digwyddiad yn y tŷ ar gyrion deheuol Dordrecht yn ddigwyddiad teuluol.