Mae Giuseppe Conte wedi ffurfio llywodraeth newydd, rhwng y Symudiad 5 Seren â’r Democratiaid asgell-chwith, gan roi diwedd ar uchelgais yr arweinydd asgell-dde yr Eidal, Matteo Salvini.

Chwe diwrnod ar ôl i’r arlywydd Sergio Mattarella ofyn i Giuseppe Conte ffurfio clymblaid newydd, mae’r gwleidydd wedi llwyddo.

Fe ddymchwelodd ei lywodraeth gyntaf ar ôl 14 mis pan dynnodd Matteo Salvini ei blaid allan. Mae’n gwrthwynebu derbyn mewnfudwyr i’r wlad.

Y bwriad oedd ceisio gorfodi etholiad, a’i sefydlu ei hun yn brif weinidog. Ond mae wedi methu.