Mae arlywydd Iran wedi tynnu’n ôl o drafodaethau gyda Donald Trump ac yn dweud fod yn rhaid i arlywydd yr Unol Daleithiau gael gwared ar y sancsiynau sydd wedi’u gosod ar Tehran.

Dywed Hassan Rouhani mai cyfle am lun fyddai cyfarfod fel arall, gan nodi “nad yw hynny yn bosib.”

Daw penderfyniad Iran ar ôl I Donald Trump ddweud ddoe (dydd Llun, Awst 26) fod siawns dda y gall y ddau gyfarfod ar ôl ymgais arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, i uno Washington a Tehran yng nghyfarfod G-7.

“Os nad yw’r Unol Daleithiau yn tynnu eu sancsiynau yn ôl, ni fydden ni’n gweld unrhyw ddatblygiad positif, mae Washington a’r allwedd,” meddai Hassan Rouhani.

Yn gynharach ddydd Llun, mynegodd Hassan Rouhani barodrwydd i drafod ffordd allan o’r argyfwng yn dilyn penderfyniad yr Unol Daleithiau i dynnu eu hunain allan.