Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn addo gwneud “ popeth sydd ei angen” i atal Brexit heb gytundeb.
Daw’r sylw wrth iddo gyfarfod Aelodau Seneddol eraill i geisio darganfod ffordd i herio’r ffordd mae Boris Johnson yn ein tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.
O flaen y trafod heddiw (dydd Mawrth, Awst 27) gyda ffigurau blaenllaw o Dy’r Cyffredin, dywedodd Jeremy Corbyn fod gwledydd Prydain yn anelu am drychineb o dan y Prif Weinidog.
Byddai Brexit heb gytundeb yn creu “Brexit y bancwyr” gan fod i fudd i’r cyfoethog, meddai.
“Mae’n frwydr o’r mwyafrif yn erbyn y lleiafrif sy’n defnyddio canlyniad y refferendwm i symud hyd yn oed mwy o rym a chyfoeth tuag at y rhai ar y brig.
“Dyna pam y bydd y Blaid Lafur yn gwneud popeth sy’n angenrheidiol i atal ‘Brexit heb fargen y bancwyr’.”
Ymhlith y rhai sy’n mynychu’r sgyrsiau trawsbleidiol heddiw mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford, ac Anna Soubry o’r Independent Group for Change.