Mae’r cyn-weinidog iechyd yn llywodraeth San Steffan, Norman Lamb, , yn sefyll i lawr pan ddaw’r etholiad cyffredinol nesaf.

Mae wedi cynrychioli etholaeth Gogledd Norfolck i’r Democratiaid Rhyddfrydol ers 2001.

Nid oes ganddo swydd ar fainc flaen y blaid, ac fe ddisgrifiodd y gwleidydd 61 oed ei benderfyniad fel “diwedd cyfnod”.

“Dw i ddim eisiau rhoi’r gorau i weithio o gwbwl,” meddai, “ond y pethau rydw i’n angerddol amdanyn nhw yw’r pethau y gallaf eu hyrwyddo orau y tu allan i’r senedd.

“Ac felly popeth a grëwyd trwy fy ngwaith fel gweinidog ym maes iechyd meddwl ac anableddau dysgu ac awtistiaeth, mae gen i farn gref iawn ynglŷn â sut mae’r system yn sathru ar hawliau dynol pobol.

“Dw i’n credu ein bod mewn lle trist ac annifyr iawn yn ein gwleidyddiaeth. Mae’n teimlo fel bod dau warchae.”

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol 14 Aelod Seneddol yn San Steffan, gyda 12 ohonyn nhw mewn swyddi mainc flaen. Cyhoeddwyd newidiadau ar ôl i Jo Swinson gael ei hethol yn arweinydd y blaid y mis diwethaf.