Mae protestiadau dros y penwythnos wedi arwain at helyntion treisgar yn Hong Kong – gyda’r ddwy ochr yn beio’i gilydd.
Mae cefnogwyr y llywodraeth wedi beirniadu gweithredoedd protestwyr gan eu cyhuddo o daflu bomiau petrol ac ymosod ar blismyn.
Dywed protestwyr dros ddemocratiaeth, fodd bynnag, fod angen i lywodraeth a heddlu’r dalaith gymryd cyfrifoldeb.
Maen nhw’n beio’r llywodraeth am gyflwyno’r ddeddfwriaeth estraddodi i China sydd wedi tanio’r protestiadau, ac yn beio’r heddlu am dargedu gwrthwynebwyr y llywodraeth.
Ar ôl gorymdeithiau heddychlon dros ddemocratiaeth yn ystod y penwythnos, roedd carfan fwy eithafol wedi cymryd drosodd y strydoedd, gan ddadlau nad yw protest heddychlon yn ddigon i gael y llywodraeth i ymateb.
Roedd yr heddlu wedi defnyddio nwy dagrau i glirio’r strydoedd ac wedi arestio mwy na 50 o bobl.
Mae’r protestwyr yn galw am etholiadau democrataidd ac am ymchwiliad annibynnol i ddulliau’r heddlu wrth chwalu gwrthdystiadau.