Mae gwrthryfelwyr Houthi yn Yemen yn honni mai nhw sydd wedi saethu drôn yr Unol Daleithiau i lawr dros ogledd y wlad.
Daw wedi i grŵp hawliau dynol, Human Rights Watch, ddweud fod clymblaid Sawdi Arabia sy’n ymladd yr Houthis wedi lladd o leiaf 47 o bysgotwyr Yemen mewn ymosodiadau bom y llynedd.
Yn ôl yr Unol Daleithiau, maen nhw’n ymwybodol bod y drôn wedi cael ei saethu i’r ddaear, ond maen nhw’n gwrthod trafod ymhellach.
Ym mis Mehefin, dywedodd yr Unol Daleithiau fod Reaper MQ-9 wedi cael ei saethu i lawr gan yr Houthis. Dywedodd fod Iran wedi helpu’r gwrthryfelwyr bryd hynny.
Dechreuodd y gwrthdaro yn Yemen ar ôl i’r Houthis gipio Sanaa yn 2014, gan gael gwared ar lywodraeth Sawdi Arabia. Ym mis Mawrth 2015, lansiodd clymblaid Sawdi Arabia ei hymgyrch awyr i atal y gwrthryfelwyr rhag goresgyn y de.