Mae unig Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, wedi cael ei phenodi’n llefarydd y blaid ar fwyd, materion gwledig a Chymru yn San Steffan.
Fe gafodd Jane Dodds ei hethol yn aelod tros Frycheiniog a Sir Faesyfed mewn isetholiad ar Awst 1, gan gipio’r sedd oddi ar y Ceidwadwr, Chris Davies.
Mae wedi dod yn rhan o dîm seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn swyddogol wrth i’r arweinydd newydd, Jo Swinson, gyflwyno newidiadau.
Mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Chuka Umunna, bellach yn llefarydd ar faterion tramor, masnach ryngwladol a datblygu rhyngwladol, tra bo cyn-arweinydd y blaid, Vince Cable, yn llefarydd ar iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Ed Davey wedyn, sef gwrthwynebydd Jo Swinson yn y ras arweinyddiaeth, wedi ei benodi’n llefarydd ar y Trysorlys a busnes.
Y tîm
o Jo Swinson – arweinydd;
o Chuka Umunna – materion tramor, masnach ryngwladol a datblygu rhyngwladol;
o Christine Jardine – materion cartref, cyfiawnder, merched a chydraddoldeb;
o Tom Brake – Brexit;
o Jamie Stone – amddiffyn a’r Alban;
o Vince Cable – iechyd a gofal cymdeithasol;
o Layla Moran – addysg a diwylliant;
o Wera Hobhouse – yr hinsawdd, yr amgylchedd a thrafnidiaeth;
o Tim Farron – tai, llywodraeth leol, gwaith a phensiynau;
o Alistair Carmichael – prif chwip a Gogledd Iwerddon;
o Jane Dodds – bwyd, materion gwledig a Chymru