Mae Prif Weinidog India wedi amddiffyn penderfyniad ei Lywodraeth i wanhau statws un o’i thaleithiau.
Roedd Kashmir yn arfer meddu a rhywfaint o annibyniaeth wleidyddol, ac ar un adeg roedd gwaharddiad mewn grym a oedd yn rhwystro tramorwyr rhag prynu tir yno.
Dadl Narendra Modi yw bod y statws yma wedi cryfhau’r galw am annibyniaeth, ac mae hefyd yn dweud bod menywod wedi dioddef dan yr hen drefn.
Dan yr hen gyfraith, roedd menywod yn colli pob hawl i’w hetifeddiaeth os oedden nhw’n priodi person o du allan i Kashmir.
“Roedd yr hen drefn yn Jammu, Kashmir, a Ladakh yn annog llygredd a nepotistiaeth,” meddai ‘r Prif Weinidog wrth annerch ei wlad.
Daw’r anerchiad ar ddiwrnod annibyniaeth India rhag rheolaeth Brydeinig. Daeth y wlad yn annibynnol 72 blynedd yn ôl.