Mae disgwyl i Donald Trump ymweld â dinas Dayton yn nhalaith Ohio, a hynny ddiwrnodau ar ôl i naw o bobol gael eu lladd gan saethwr yno.

Bydd yr Arlywydd yn galw am undod yn dilyn dau ymosodiad ar ddau begwn o’r wlad dros y penwythnos, gyda’r ymosodiad arall yn y de yn ninas El Paso, Tecsas.

Yn ôl swyddogion y Tŷ Gwyn, fe fydd ymweliad Donald Trump ag Ohio a Texas, lle cafodd cyfanswm o 31 eu lladd, yn dilyn y drefn arferol ar gyfer ymweliadau a chymunedau sy’n galaru.

Cwestiynu’r ymweliad

Mae Maer Dayton, Nan Whaley, wedi cwestiynu pa un a fyddai ymweliad Donald Trump o gymorth ai peidio.

Mae hi hefyd wedi mynegi ei siom ynglŷn â sylwadau’r Arlywydd yn dilyn yr ymosodiad, a oedd yn cynnwys y camgymeriad o gyfeirio at ddinas Toledo yn hytrach na Dayton.

“Alla i ond gobeithio fel Arlywydd yr Unol Daleithiau, ei fod yn dod i fan hyn oherwydd ei fod yn awyddus i ychwanegu gwerth at ein cymuned, a’i fod yn cydnabod mai dyna beth sydd ei angen ar ein cymuned,” meddai.

“Mae gan bawb o fewn eu grym y nerth i ddod â phobol ynghyd, ac mae gan bawb o fewn eu grym y nerth i wahanu pobol. Mae hynny i fyny i Arlywydd yr Unol Daleithiau.”