Mae Taoiseach Iwerddon wedi annog Llywodraeth Prydain i ollwng ei “llinellau coch” os yw hi am ail-agor y trafodaethau ar y cytundeb Brexit.

Yn ôl Leo Varadkar, cafodd y cytundeb presennol ei ffurfio oherwydd safbwynt Llywodraeth Theresa May yn ystod trafodaethau.

Daw sylwadau’r Gwyddel wrth i weinidog cyllid Iwerddon, Paschal Donohoe, ddweud bod cytundeb Brexit a fydd yn caniatáu cyfnod pontio “yn dal i fod yn bosib”.

“Dw i’n credu ei bod hi’n dal i fod yn bosib cael trefniadau a fydd yn gweld gwledydd Prydain yn cael mynediad i gyfnod pontio cyn y byddan nhw’n gadael yr Undeb Ewropeaidd yn derfynol,” meddai wrth raglen Newisnight ar y BBC.

Mewn cyfweliad i bapur newydd ym Melfast, dywedodd Leo Varadkar: “Mae’r Cytundeb Ymadael yn bodoli oherwydd y llinellau coch a gafodd eu ffurfio gan Lywodraeth Prydain.

“Ond os ydyn ni am ddychwelyd i’r cam cyntaf, mae angen i’r llinellau coch hynny newid. Bydd gennym rywbeth i’w drafod wedyn.”

Ychwanegodd y byddai Brexit dim cytundeb o ganlyniad i benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn Llundain.