Mae dynes wedi marw ar ôl cael trawiad ar y galon yn dilyn daeargryn oedd yn mesur 6.8 ar raddfa Richter, yn ynys Java, Indonesia.
Cafodd dros 100 o gartrefi eu difrodi.
Roedd y ddynes yn ceisio dianc yn Pecangsari, y pentref agosaf i ganolbwynt y daeargryn.
Cafodd pedwar o bobol eraill eu hanafu.
Roedd peth difrod i adeiladau ddegau o filltiroedd i ffwrdd o ganolbwynt y daeargryn.