Silvio Berlusconi
Fe fydd Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, yn gorfod brwydro i aros mewn grym wrth iddo wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn senedd y wlad yfory.

Petai’r bleidlais yn mynd yn ei erbyn, byddai’n rhaid i Berlusconi ymddiswyddo, ond mae’r gŵr eisoes wedi goroesi sawl pleidlais i’w ddisodli yn barod.

Wrth annerch y Senedd heddiw, dywedodd Berlusconi mai ef a’i blaid oedd yr unig ateb credadwy er mwyn adfer y wlad o’r argyfwng ariannol presennol.

Mae Berlusconi hefyd wedi mynnu nad yw’n bwriadu sefyll i lawr, ac os yw’r bleidlais yn mynd yn ei erbyn, fe fydd yn galw am etholiad arall, yn hytrach na llywodraeth “technegol.”

Hyd yn hyn, mae Berlusconi wedi llwyddo i osgoi galwadau am etholiad arall, er i’w arweinyddiaeth dderbyn ergyd ar ôl ergyd oherwydd sgandalau yn ymwneud â’i fywyd personol, achosion llys, a sefyllfa ariannol fregus y wlad.

Mae tri asiantaeth ariannol bellach wedi israddio statws credyd yr Eidal, gan ddweud fod anawsterau gwleidyddol y wlad yn un o’r prif resymau am y newid.