Mae awdurdodau Hong Kong yn paratoi ar gyfer diwrnod arall o brotestio, ar ôl i 11 o bobol gael eu harestio ac oddeutu dau ddwsin o bobol eu hanafu ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 27).

Fe fydd rali’n cael ei chynnal ganol y prynhawn, ryw 500 llath i ffwrdd o bencadlys llywodraeth y wlad.

Mae’r heddlu’n gwrthod rhoi caniatâd i’r protestwyr orymdeithio tua milltir a hanner i Barc Coffa Sun Yat-sen, ond mae disgwyl i nifer anwybyddu hynny.

Fe fu protestiadau ers saith wythnos yn erbyn bil estraddodi, ac fe fu galwadau ar i Carrie Lam, arweinydd y ddinas, gamu o’r neilltu ac am ymchwiliad i ymdriniaeth yr heddlu o’r protestwyr.

Caiff arweinydd y ddinas ei ddewis gan bwyllgor pro-Beijing yn hytrach na thrwy etholiad.