Mae’r awdurdodau yn Awstralia wedi dod o hyd i olion corff twrist o Ffrainc a ddiflannodd oddi ar draeth gyda dyn o wledydd Prydain bum mis yn ôl.

Yn ôl yr heddlu lleol, mae profion DNA ar dri darn o esgyrn dynol a gafodd eu canfod ar draeth yn New South Wales, wedi cadarnhau eu bod yn perthyn i Erwan Ferrieux, 21.

Ond mae cyfaill y Ffrancwr, sef Hugo Palmer, 20, o Loegr, yn dal i fod ar goll, medden nhw.

Y gred yw bod y ddau wedi boddi tra oedden nhw’n nofio yn y môr.

Mae’r heddlu yn dal i gynnal profion ar ddarn arall o asgwrn dynol a gafodd ei ganfod ar yr un traeth.